top of page

Catrin Finch & Seckou Keita yn cyhoeddi taith DU i gyd-fynd â rhyddhau eu halbwm newydd ‘SOAR’ y


Mae’n bleser gan Catrin Finch y delynores Gymreig a Seckou Keita, y chwaraewr kora o Senegal, gyhoeddi rhyddhau eu hail albwm, y bu aros mawr amdano, sef SOAR ar 27ain o Ebrill 2018 ar label bendigedig. Yn dilyn hyn bydd taith DU ym mis Ebrill a Mai y flwyddyn nesaf, gyda dyddiadau pellach yn yr hydref i’w cyhoeddi’n fuan.

Mae’r albwm yn troi o gwmpas adenydd y gwalch, yr aderyn ysglyfaethus godidog a ddychwelwyd i Gymru’n ddiweddar yn dilyn absenoldeb o ganrifoedd, sy’n gwneud ei daith flynyddol o 3,000 milltir o arfordiroedd Gorllewin Affrica i aberoedd Cymru, gan hedfan fel cerddoriaeth a breuddwydion dros ffiniau o waith Dyn, ar siwrnai o ddycnwch cynhenid ac epig.

Gan dynnu’n ddwfn ar eu traddodiadau amrywiol eu hunain a’u trawsffurfio gyda synergedd hynod, mae Catrin a Seckou wedi adeiladu enw da heb ei ail am eu perfformiadau rhyfeddol dros y pedair blynedd ddiwethaf. Yn gyfareddol, yn fesmereiddiol, yn gywrain ac yn etheraidd, mae’r cydweithrediad aruthrol hwn, sy’n fawr ei glod gan y beirniaid, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri, rhwng dau berfformiwr penigamp yn darparu arddangosfa syfrdanol o gerddoriaeth o’r radd flaenaf a phrofiad byw gwefreiddiol.

Bydd y daith yn ymweld â Machynlleth, Bangor, Milton Keynes, Caerfaddon, Caerdydd, Aberteifi, Llundain, Truro, Birmingham, Sheffield, Abertawe, Derby a Swaledale, gyda’r gantores-gyfansoddwraig Gwyneth Glyn yn cefnogi ar ddyddiadau penodol.

Caiff y dyddiad ryddhau ei farcio gan berfformiad arbennig ar gyfer cynulleidfa o 45 person yn yr Arsyllfa yng Nghanolfan Gweilch Dyfi ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru, sy’n edrych dros blatfform nythu’r gweilch. Caiff yr holl elw a godir ei roi i Ganolfan Gweilch Dyfi i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn. Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn yn £50 y pen gan gynnwys lluniaeth a chopi o’r albwm newydd wedi ei lofnodi.

Cyfeiriwch at wefannau canolfannau unigol am docynnau a dyddiadau gwerthu, neu ewch at catrinfinchandseckoukeita.com am fanylion. Caiff y daith hon ei chynhyrchu gan Theatr Mwldan.

DYDDIADAU’R DAITH EBRILL / MAI 2018

Ebrill 26 Y Tabernacl, Machynlleth, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

tocynnau drwy mwldan.co.uk

Ebrill 27 Yr Arsyllfa, Canolfan Gweilch Dyfi, Machynlleth

Perfformiad codi arian – tocynnau drwy mwldan.co.uk

Ebrill 29 Hall For Cornwall, Truro

hallforcornwall.co.uk

Mai 2 Theatr Mwldan, Aberteifi, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

mwldan.co.uk

Mai 3 Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

stdavidshallcardiff.co.uk

Mai 4 The Stables, Milton Keynes

stables.org

Mai 12 Union Chapel, Llundain, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

Tocynnau ar werth ddydd Gwener 8 Rhagfyr o 10yb serious.org.uk

Mai 15 Crucible Studio Theatre, Sheffield

musicintheround.co.uk

Mai 17 Pontio, Bangor, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

pontio.co.uk

Mai 18 Canolfan y Celfyddydau Taliesin Arts Centre, Abertawe, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

taliesinartscentre.co.uk

Mai 22 Gŵyl Caerfaddon, Caerfaddon

Tocynnau ar werth o 13 Rhagfyr drwy Bathfestivals.org.uk

Mai 25 The Guildhall, Derby, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

derbylive.co.uk

Mai 28 Swaledale, Grinton

Tocynnau ar werth 5 Mawrth i danysgrifwyr cynllun ‘Cyfeillion’, ac ar werth i’r cyhoedd o 26 Mawrth drwy www.swalefest.org

LAWR-LWYTHIO’R DATGANIAD I’R WASG:

Recent Posts
Archive
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
bottom of page