top of page

STATEMENT ON BEHALF OF CATRIN FINCH / DATGANIAD AR RAN CATRIN FINCH

Dear Friends

I have some difficult news to pass on to you all.

Catrin Finch has confirmed that she is undergoing treatment for recently diagnosed Grade 3 breast cancer. Her condition is treatable and has been detected early on. Catrin is under the care of the excellent NHS team at Velindre Cancer Centre, Cardiff, who are currently supporting her through her treatment.

As those of you who follow this page know we have a busy year ahead. Catrin’s music is very important to her and she is determined to keep playing and fulfil as many of her engagements as her treatment will safely allow. She is a fit, courageous young woman and she knows that there are many others out there who will identify with her situation. We are a small and very close team and her well-being is absolutely paramount to us.

In light of this we are cancelling Catrin’s current overseas commitments, but at this stage we are not cancelling any of her planned UK dates with Seckou. As I’m sure you will all understand there is inevitably a possibility that we may need to reschedule some concerts but we will keep you all posted via Catrin and Seckou's official Facebook page and Twitter account @CatrinSeckou (Catrin will be taking a back seat from social media for the time being), and I’m sure your thoughts and wishes will be with Catrin and her family and friends on this journey.

With love to you all

Tamsin Davies (on behalf of Catrin Finch)

Annwyl Gyfeillion

Mae gennyf newyddion anodd iawn i rannu gyda chi gyd.

Mae Catrin Finch wedi cadarnhau ei bod yn cael triniaeth ar gyfer canser y fron Gradd 3 a ddiagnoswyd yn ddiweddar. Gellir trin ei chyflwr ac mae wedi ei ddarganfod yn gynnar. Mae Catrin o dan ofal tîm rhagorol y GIG yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, sydd ar hyn o bryd yn ei chefnogi ar hyd ei thriniaeth.

Fel bydd y rhai ohonoch sy’n dilyn y dudalen hon yn ymwybodol, mae gennym flwyddyn brysur iawn o’n blaenau. Mae cerddoriaeth Catrin yn bwysig iawn iddi ac mae’n benderfynol o gyflawni cymaint o’u hymrwymiadau a fydd ei thriniaeth yn caniatáu. Mae'n fenyw ifanc, heini a dewr ac mae'n gwybod y bydd llawer o bobl eraill yn medru uniaethu â'i sefyllfa. Rydym yn dîm bach agos iawn ac mae ei lles yn hollbwysig i ni.

Yng ngoleuni hyn, rydym yn canslo ymrwymiadau tramor cyfredol Catrin yn ystod y misoedd canlynol, fodd bynnag, ni fydd y dyddiadau a threfnir yn y DU gyda Seckou Keita yn newid ar hyn o bryd. Rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn deall bod ‘na bosibilrwydd anochel y bydd yn rhaid i ni ail-drefnu rhai cyngherddau, ond bydd ein tîm yn parhau i bostio newyddion ar dudalen Facebook a Thrydar Catrin a Seckou @CatrinSeckou o hyn ymlaen i’ch diweddaru (bydd Catrin yn cymryd hoe o bostio ar y cyfryngau cymdeithasol am y tro), ac rwy’n siŵr y bydd eich cydymdeimlad â’ch dymuniadau gorau gyda Catrin a’i theulu a’i ffrindiau ar y siwrnai hon.

Gyda chariad i chi gyd

Tamsin Davies (ar ran Catrin Finch)

Recent Posts
Archive
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
bottom of page