Catrin a Seckou yn ysgrifennu’r arwyddgan ar gyfer cyfres o bodlediadau BBC Radio 4 'The Ratline
Mae Catrin Finch a Seckou Keita wedi ysgrifennu’r arwyddgan ar gyfer podlediad pwysig newydd ar Radio 4 yn serennu Laura Linney a Stephen Fry. Mae The Ratline, caiff ei gyflwyno gan y bargyfreithiwr a’r ysgrifennwr Philippe Sands, yn archwiliad o Otto von Wächter, Uwch Natsi o Awstria a gafodd ei dditio am lofruddiaeth dorfol, ond dihangodd rhag cyfiawnder yn dilyn y rhyfel. Stori am fywyd a chariad, llofruddiaeth, gwadiad a marwolaeth chwilfrydig, mae The Ratline ar gael i’w lawrlwytho nawr trwy wefan y BBC.
Gwybodaeth bellach yma: https://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2018/radio-4-the-ratline-podcast
"Mae’r cwbl gan The Ratline: marwolaeth chwilfrydig, cynllwyn gwleidyddol, ysbiwyr, helwyr Natsïaid, grymoedd tywyll o fewn y Fatican, castell yn Hagenberg a mab sy’n ceisio ymdopi â phechodau ei dad" Mohit Bakaya, Golygydd Comisiynu