top of page

‘JOY’ gan AKA Trio - Antonio Forcione - Seckou Keita - Adriano Adewale - bydd yr albwm nesaf i’w ryd

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r albwm nesaf y byddwn yn rhyddhau ar bendigedig bydd albwm newydd AKA Trio. Mae AKA Trio yn uwchgyfarfod cerddoriaeth byd rhwng tri phencampwr byd enwog: Antonio Forcione (Yr Eidal), Seckou Keita (Senegal) and Adriano Adewale (Brasil). Mae Antonio Forcione, y gitarydd-cyfansoddwr o’r Eidal, wedi bod yn teithio’r byd am dros ddau ddegawd, gan ryddhau ugain albwm a chydweithio gyda nifer o artistiaid o bwys ar hyd y ffordd, gan gynnwys enwogion megis Charlie Haden, Trilok Gurtu, Angelique Kidjo a’r Bulgarian Voices, ymhlith nifer mwy. Seckou Keita o Senegal yw un o’r chwaraewyr kora gorau’r byd, yn gysylltiedig â nifer o brosiectau rhyngwladol, gan gynnwys ei deuawd arloesol gyda’r delynores Gymreig Catrin Finch, Africa Express gyda The Orchestra of Syrian Musicians, a’i brosiect Transparent Water gyda’r pianydd o Giwba, Omar Sosa. Mae Adriano Adewale, yr offerynnwr taro a’r cyfansoddwr o Frasil, wedi cydweithio â Bobby McFerrin, Joanna McGregor a Benjamin Taubkin ac mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cerddorfeydd a theatrau dawns. Gyda’i gilydd maen nhw’n cydweithredu ac yn cyfuno i greu uniad rhyngwladol sy’n hyfryd o wreiddiol. Bydd AKA Trio yn perfformio fel rhan o seremoni agoriadol WOMEX 18, sydd eleni’n dathlu tri chyfandir fel ei thema, o dan y Cyfarwyddwr Artistig Germán Lopez. Caiff 'JOY' ei ryddhau ar y 24ain o Fai 2019. Ymunwch â’n rhestr bostio am fwy o wybodaeth wrth iddi ddod i law, ac ewch at wefan AKA Trio www.aka-trio.com am fwy o wybodaeth.

@AnnaKunst

Recent Posts
Archive
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
bottom of page