Search
Enwebeion ar gyfer Gwobrau Cerddoriaeth Werin Ryngwladol 2020 yn cael eu Cyhoeddi
- Tamsin Davies
- Jan 6, 2020
- 1 min read
'SOAR' gan Catrin Finch a Seckou Keita yn cael ei enwebu ar gyfer Albwm y Flwyddyn.
Mae’r Folk Alliance International wedi cyhoeddi’r enwebeion ar gyfer Gwobrau Cerddoriaeth Werin Ryngwladol 2020, i’w cynnal ar ddydd Mercher 22 Ionawr yn New Orleans.
Mae Catrin Finch a Seckou Keita, a enillodd y Grŵp / Deuawd Gorau yn ddiweddar yng Ngwobrau Gwerin y BBC, wedi derbyn enwebiad ar gyfer Albwm y Flwyddyn am SOAR, ynghyd â’r artistiaid Gwyddelig Dervish, y cyfansoddwr caneuon a’r chwaraewr banjo Kelly Hunt, y canwr gwerin Americanaidd John McCutcheon a’r gantores efengyl Mavis Staples am ei record We Get By.
Comentários